P-04-453 : Gwelliannau ym Maes Awyr Caerdydd

Geiriad y ddeiseb:

Nod y ddeiseb hon yw nodi pryder am y diffyg gwasanaethau yn ein maes awyr cenedlaethol. Rydym am ddenu rhagor o gwmnïau awyrennau a busnesau i faes awyr Caerdydd, i ddinas Caerdydd ac i gymunedau ehangach De Cymru. Mae Fly Cardiff yn gobeithio cydweithio â’r maes awyr, a gweithredu fel dolen rhwng y maes awyr, ei gwsmeriaid a Llywodraeth Cymru.

 

Prif ddeisebydd: Kelvin Hayes

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

Nifer y llofnodion: 144